Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (187)v6 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Cwestiwn Brys
Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am honiadau gan y Prif Weinidog na fydd Llywodraeth Cymru bellach yn gyfrifol am dalu costau sy’n gysylltiedig â thrydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd?
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
Cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau NDM5471 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Alun Ffred Jones (Plaid Cymru) yn aelod o, ac yn Gadeirydd i, y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn lle Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru).
|
3 Dadl: Adroddiad y Grŵp Arbenigwyr ar Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol (60 munud) NDM5462 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Grŵp Arbenigwyr ar Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol. Mae’r Adroddiad ar gael ar y ddolen ganlynol: http://wales.gov.uk/docs/dsjlg/publications/localgov/140305-expert-group-report-cy.pdf
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i annog amgylcheddau gwaith sy'n ystyriol o deuluoedd, ac ystyried canfyddiadau'r adroddiad ynghylch argaeledd gofal plant, amser cyfarfodydd ac awyrgylch cyfarfodydd cyngor.
|
4 Dadl: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (60 munud) NDM5463 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Mae manylion Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru i’w gweld yn: http://wales.gov.uk/legislation/programme/?lang=cy
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pryderon a godwyd am nifer y biliau fframwaith sy'n cael eu cyflwyno gerbron y Cynulliad.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pryderon a godwyd am nifer yr achlysuron lle y mae proses ddeddfwriaethol safonol y Cynulliad wedi cael ei chwtogi.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder y duedd ddiweddar o ran biliau fframwaith, a deddfwriaeth llwybr carlam a deddfwriaeth frys, sy'n tanseilio'r gallu i graffu'n effeithiol ar ddeddfwriaeth ac i sicrhau atebolrwydd democrataidd cryf.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno Bil ar Anghenion Addysgol Arbennig o fewn y flwyddyn nesaf.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod llwyddiant y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn dibynnu ar Raglen Lywodraethu gynhwysfawr ac ystyrlon.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn cael ei chyfyngu pan fydd deddfwriaeth y llywodraeth yn cael ei chyfeirio at y Goruchaf Lys.
|
Cyfnod Pleidleisio |
5 Dadl y Cyfnod Adrodd ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (150 mins) Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y cafodd yr adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt eu rhestru yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 a gytunwyd gan y Cynulliad ar 11 Mawrth 2014.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Egwyddorion statudol 106 2. Technegol 11, 22, 23, 24, 25, 43, 52, 55, 56, 57, 58, 97, 60, 63, 64, 65, 66, 69, 70, 83, 84, 85, 87, 91, 10 3. Egwyddorion a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig 7, 8, 9 4. Asesiad o’r camau sydd angen eu cymryd i ddarparu gwasanaethau mewn ieithoedd heblaw Saesneg 1*, 1A* 5. Gofal a chymorth yn y cartref 108, 114 6. Darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy hygyrch 101 7. Gwrthod asesiad o anghenion 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18 8. Cyfuno asesiadau o anghenion ac asesiadau eraill 19, 20, 21 9. Rheolidau ynghylch asesu 113 10. Dyfarnu cymhwystra 109 11. Contractau dim oriau 102, 103, 105 12. Dyletswydd i ddiwallu anghenion cymorth gofalwyr 26, 27, 28, 29, 30, 50 13. Taliadau uniongyrchol 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42 14. Gwarchod eiddo personau y gofelir amdanynt i ffwrdd o’u cartrefi 44, 45, 46, 47, 48, 49 15. Cytundebau ar daliadau gohiriedig ac adennill costau 51, 53 16. Trosglwyddo asedau i osgoi ffioedd 54 17. Apelio yn erbyn penderfyniadau awdurdod lleol 110, 111, 107 18. Hyrwyddo a chynnal cyswllt rhwng plentyn a theulu 59 19. Trefniadau byw ôl-18 2, 3, 4 20. Cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 4 61 21. Trefniadau i helpu plant i fyw y tu allan i Loegr a Chymru 62 22. Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol 98, 99, 100 23. Dehongli carchar a charchar sydd wedi ei gontractio allan at ddibenion adran 156 67, 94 24. Diffiniad o lesiant at ddibenion Deddf Plant 2004 68 25. Gwasanaethau mabwysiadu 112, 6 26. Dyletswyddau awdurdod lleol mewn perthynas â’r rhai sy’n gadael gofal sydd mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etc 71, 72, 73, 74, 75, 76, 77, 78, 79, 80, 81, 82 27. Methiant darparwr 86, 88, 89, 90 28. Adolgyiad o’r Deddf 118, 119, 115, 116 29. Adolygiad o’r galw yn y dyfodol am ofal iechyd a chymdeithasol 120, 117 30. Dehongli cyffredinol a mynegai o ymadroddion a ddiffiniwyd 92, 93, 96, 95 *Grwp 4: Bydd y gwelliannau hyn yn cael eu gwaredu yn y drefn 1A, 1 (Gwelliant 1 yw’r prif welliant yn y grŵp) Dogfennau Ategol
Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), fel y’i
diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 |
6 Dadl Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (15 munud) Ar ddiwedd y Cyfnod Adrodd caiff y Dirprwy Weinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 19 Mawrth 2014